Yn Adolygiad Cynllunio Datgarboneiddio Llywodraeth Leol Cymru ar sefyllfa bresennol y Cynllunio Datgarboneiddio yn Llywodraeth Leol Cymru, dadansoddwyd yr ymyriadau a restrir yng nghynlluniau Datgarboneiddio cynghorau yn ôl pedwar maes blaenoriaeth, yn cynnwys Adeiladau, Symudedd a Chludiant, Caffael, a Defnydd Tir. Mae’r meysydd hyn yn adlewyrchu’r meysydd blaenoriaeth a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn eu hadroddiad Carbon Sero Net 2030 ar gyfer y sector cyhoeddus.
Mae Cyngor Caerdydd yn bwriadu newid defnydd safle tirlenwi Ffordd Lamby i greu Fferm Solar 9MW, ar raddfa fawr. Rhagwelir y bydd y prosiect yn cynhyrchu digon o ynni i bweru 2,900 o gartrefi bob blwyddyn a bydd yn costio £16.3 miliwn dros 35 mlynedd.