Mae Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol Cymru ar gyfer Ymarfer Corff yn gweithredu yn ôl arferion gorau’r Deyrnas Gyfunol (tystiolaeth gyfoes berthnasol) a safonau gwladol. Llywodraeth Cymru sy’n cynnal y cynllun ar y cyd â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd lleol. Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â phartneriaeth timau iechyd y meddwl yn y gymuned a staff y cynllun.
Prif nodau’r cynllun:
- Cynnig – yn ôl safonau gwladol – gyfleoedd i ymarfer mewn modd diogel ac effeithiol yn y gymuned i ddiwallu anghenion clientiaid a chanddynt broblemau parhaus iechyd y meddwl
- Cynnig cynghorion priodol am ffordd iach o fyw ar y cyd â thimau iechyd y meddwl yn y gymuned
- Hyrwyddo a gwella lles iechyd a chorff pob client
- Cryfhau tuedd pob client i ymarfer am weddill ei einioes
Mae rhagor o wybodaeth gan: ners.wales@wales.nhs.uk